I started working in the Construction industry to embark on a change in career in 2015. Anwyl Construction primarily work with Housing Providers, currently sitting on many frameworks in the housing sector as well as working on partnered projects with many long-standing clients, working throughout North Wales and into the North West.
My role as Communications Coordinator covers Corporate Social Responsibility (CSR), Digital Marketing, PR/Comms, and Community Engagement. Working with our clients to engage with local communities and deliver positive outcomes is where my passion lies and I think it’s so important to ensure we build vibrant communities for our clients and their customers, creating new jobs, apprenticeships or training opportunities and enabling community activities and projects through both funding and coordination.
I first heard about WISH North Wales during its evolvement from our Chair, Nikki Waud. I have found WISH is a brilliant platform to meeting other likeminded people who want to get on in their careers, a place where everyone can access support and encouragement from other members and the board whilst also benefitting from inspiring and influential speakers and workshops. It’s truly beneficial to meet other people within the housing sector and understand the critical issues and pressures our clients face and I always leave an event feeling upbeat, confident and motivated. Therefore, I was thrilled when the WISH Board invited me to become an ambassador.
I am due to start a CIM course in April 2019 to gain my Level 3 Foundation qualification in Marketing. I’ve joined the WISH team to assist with Marketing and to manage the Social Media Platforms to push the North Wales name out across the housing and development sectors. This will support me in gaining my Marketing qualification, as well as growing my own network and experience. I’m excited to be working closely with a board of influential and successful women within the housing sector and I hope this will open up new avenues for me to explore in my role at Anwyl when coordinating CSR and Community projects in order to further meet our Clients’ agendas.
Outside of work I enjoy keeping fit and experimenting in the kitchen with new recipes, not forgetting to take time out to support my favourite independent coffee haunts. I also enjoy being chief party planner for my friendship group and family!
Natalie Palframan - Cydlynydd Cyfathrebu yn Anwyl Construction
Ychydig amdanaf fi!....
Dechreuais weithio yn y diwydiant Adeiladu i ddechrau ar newid yn fy ngyrfa yn 2015. Mae Anwyl Construction yn gweithio gyda Darparwyr Tai yn bennaf, ac ar hyn o bryd mae’n eistedd ar lawer o fframweithiau yn y sector tai yn ogystal â gweithio ar brosiectau partneriaeth gyda llawer o gleientiaid hirsefydlog, gan weithio ledled Gogledd Cymru a draw i Ogledd Orllewin Lloegr.
Mae fy rôl fel Cydlynydd Cyfathrebu yn cynnwys Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, Marchnata Digidol, Cysylltiadau Cyhoeddus a Chysylltiadau Cymunedol. Rwy’n teimlo’n angerddol dros weithio gyda'n cleientiaid i ymgysylltu â chymunedau lleol a sicrhau canlyniadau cadarnhaol, a chredaf ei bod mor bwysig sicrhau ein bod ni’n adeiladu cymunedau bywiog ar gyfer ein cleientiaid a'u cwsmeriaid, gan greu swyddi newydd, prentisiaethau neu gyfleoedd hyfforddi a galluogi gweithgareddau cymunedol a phrosiectau drwy ariannu a chydlynu.
Mi wnes i glywed gyntaf am WISH Gogledd Cymru yn ystod ei esblygiad gan ein Cadeirydd, Nikki Waud. Rwyf wedi gweld WISH fel llwyfan gwych i gyfarfod gyda phobl debyg eraill o’r un teithi meddwl sydd am fynd ymlaen yn eu gyrfaoedd, rhywle lle y gall pawb gael gafael ar gefnogaeth ac anogaeth gan aelodau eraill a'r bwrdd, gan elwa hefyd o siaradwyr a gweithdai ysbrydoledig a dylanwadol. Mae'n wirioneddol fuddiol cyfarfod gyda phobl eraill o fewn y sector tai a deall y materion hanfodol a'r pwysau y mae ein cleientiaid yn eu hwynebu ac rwyf bob amser yn gadael digwyddiad yn teimlo'n gadarnhaol, yn hyderus ac yn llawn cymhelliant. Felly, roeddwn wrth fy modd pan wnaeth Bwrdd WISH fy ngwahodd i ddod yn llysgennad.
Byddaf yn dechrau ar gwrs CIM ym mis Ebrill 2019 er mwyn ennill fy nghymhwyster Sylfaen Lefel 3 mewn Marchnata. Rwyf wedi ymuno â thîm WISH i gynorthwyo gyda Marchnata a rheoli'r Llwyfannau Cyfryngau Cymdeithasol er mwyn gwthio enw Gogledd Cymru ar draws y sectorau tai a datblygu. Bydd hyn yn fy helpu i ennill fy nghymhwyster Marchnata, yn ogystal â thyfu fy rhwydwaith a'm profiad fy hun. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio'n agos gyda bwrdd o ferched dylanwadol a llwyddiannus yn y sector tai a gobeithiaf y bydd hyn yn agor llwybrau newydd i mi eu harchwilio yn fy swydd yn Anwyl wrth gydlynu prosiectau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a Chymunedol er mwyn bodloni agenda ein cleientiaid.
Y tu allan i'r gwaith rwy'n mwynhau cadw'n heini ac arbrofi yn y gegin gyda ryseitiau newydd, heb anghofio cymryd amser i gefnogi fy hoff siopau coffi annibynnol. Rwyf hefyd yn mwynhau bod yn brif drefnydd partis ar gyfer fy ffrindiau a'm teulu!